Llunio Hanes

Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd

By (author) Gethin Matthews, Meilyr Powel

Ebook (VitalSource) - £19.99

Publication date:

15 July 2022

Length of book:

168 pages

Publisher

Gwasg Prifysgol Cymru

ISBN-13: 9781786839008

MYNEDIAD AGORED: Er mwyn darllen fersiwn ePDF o'r llyfr hwn am ddim, pwyswch y ddolen isod: https://www.uwp.co.uk/app/uploads/9781786838995.pdf Mae'r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themau a chysyniadau hanes. Gan ddwyn y teitl Llunio Hanes, mae'r gyfrol yn archwilio a chrynhoi'r gwahanol ffyrdd y mae haneswyr wedi ysgrifennu, ac yn parhau i ysgrifennu, hanes. Yn ei hanfod, dyma gyflwyniad i hanesyddiaeth - yr astudiaeth o ysgrifennu hanes - gyda'r nod o ymgynefino'r darllenydd ag 'offer' yr hanesydd, ac i esbonio'r fethodoleg y tu ol i ddeongliadau hanesyddol. Mae'r awduron yn ein tywys ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Wrth archwilio hanes cenedlaethol, hanes Marcsaidd, hanes o'r gwaelod, hanes llafar, hanes menywod, hanes diwylliannol, ol-strwythurol, y darostyngol a'r hollfydol, mae'r gyfrol yn ystyried sut y mae meysydd a disgyblaethau eraill yn dylanwadu ar grefft yr hanesydd.